Mae prosiect Cynllun Rheoli Cynefinoedd Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn ne Cymru yn brosiect 25 mlynedd i adfer 1,500 hectar o gynefinoedd coedwigedig fel rhan o'r caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad fferm wynt Pen Y Cymoedd.
Mae'r dudalen we hon hefyd ar gael yn Saesneg / This webpage is also available in English
Trosolwg
Ar un adeg, roedd ardal yr ucheldiroedd rhwng Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yng nghymoedd De Cymru yn fawndir corsiog. Ond yn sgil plannu coed conwydd dros ardaloedd helaeth at ddibenion masnachol ers y 1950au, mae tirwedd yr ardal bellach yn edrych yn wahanol iawn.
Mae'r newid hwn wedi effeithio nid yn unig ar olwg y cymoedd, ond hefyd wedi newid y casgliadau naturiol o fywyd gwyllt sy'n defnyddio'r ardal ac wedi gwneud y tir yn llai gwydn i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae'r newid i sero net yn dod â llawer o fuddion, gan gynnwys ffermydd gwynt sy'n galluogi gwelliannau i'r amgylchedd naturiol trwy eu cynlluniau rheoli cynefinoedd.
Fel rhan o'r caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu Fferm Wynt Pen y Cymoedd – sydd â 76 tyrbin – ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn Ne Cymru, mae'r cwmni egni Vattenfall yn gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ar brosiect gwerth £3 miliwn a gynlluniwyd i adfer cynefinoedd a gwella gwytnwch ecosystemau mawndiroedd ar y safle.
Uchelgais y prosiect 25 mlynedd yw i cyflwyno cynlluniau i gefnogi bywyd gwyllt a chynefinoedd lleol trwy adfer cynefinoedd brodorol sydd wedi eu coedwigo. Rhoddir blaenoriaeth i adfer gorgorsydd, cwympo planhigfeydd conwydd ac ymgymryd â gwaith paratoi tir i adfer prosesau hydrolegol naturiol mawndiroedd er mwyn storio a dal carbon.
Y prosiect
Prosiect Rheoli Cynefinoedd Fferm Wynt Pen y Cymoedd yw un o'r prosiectau adfer mwyaf o'i fath yn y DU. Bydd yr ymdrech 25 mlynedd yn golygu cwympo stretogol o blanhigfa gonwydd o fewn safle hyd at 1500ha a gwaith paratoi tir i adfer prosesau hydrolegol naturiol ar y safleoedd hynny.
Hyd yma, mae gwaith adfer cynefinoedd wedi digwydd mewn ardal o dir wedi'i gwympo sydd oddeutu 16ha. Mae hyn wedi golygu blocio sianeli draenio a throi boncyffion y coed sydd wedi'u cwympo drosodd i mewn i'r mawn sy’n weddill.
Trwy fewnlenwi'r systemau draenio a chwysi aredig presennol sy'n gysylltiedig â hen waith coedwigaeth neu amaethyddol, mae’r lefel trwythiad yn cael ei chodi. Mae hyn yn help i adfer hydroleg y fawnog i gyflwr sydd bron yn naturiol, ac ail-greu'r amodau sydd eu hangen ar gyfer planhigion sy'n ffurfio mawn i ailgytrefu’r safle.
Disgwylir i waith i reoli faint mae coed anfrodorol yn aildyfu gael ei raglennu dros amser wrth i'r gwaith tir gael ei gwblhau a bydd ymateb y safle’n cael ei fonitro.
Canlyniad disgwyliedig y gwaith paratoi tir yw y bydd y mawnogydd sydd wedi dirywio ac yn erydu’n dechrau gweithredu fel corsydd gweithredol ac yn dal carbon, gan ddarparu’r buddion bioamrywiaeth sy’n perthyn i orgorsydd yn y tymor hir.
Manteision amgylcheddol a chymdeithasol
Mae gan fawndiroedd y potensial i fod yn ateb naturiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac mae nhw’n storio llawer o garbon. Trwy wella'r cynefinoedd hyn ar Fferm Wynt Pen y Cymoedd, nid yn unig bydd hyn yn cynyddu bioamrywiaeth y safle ond bydd hefyd yn gwrthdroi erydiad ac yn creu dalfeydd carbon.
Yn ogystal, disgwylir i wasanaethau ecosystem ehangach hefyd hefyd megis rheoleiddio gollyngiad dŵr o'r tir trwy wella ei gapasiti storio gan arwain at afonydd s’yn llai fflach ac o fwy o werth i fywyd gwyllt.
Y gobaith yw y bydd gwelliannau o'r fath yn annog llawer o rywogaethau bywyd gwyllt lleol sy'n dirywio ar hyn o bryd i ffynnu unwaith eto. Mae'r rhain yn cynnwys adar fel yr ehedydd a'r troellwr mawr; infertebratau fel gloÿnnod byw y fritheg werdd a’r fritheg berlog fach; a mamaliaid, gan gynnwys llygod pengrwn y dŵr sy’n anodd eu canfod.
Y gobaith hefyd yw y bydd y safle'n dod yn esiampl ar gyfer adfer mawnogydd sydd wedi’u coedwigo yng Nghymru ac yn darparu adnodd dysgu ar gyfer prosiectau eraill o'r math hwn.
Project partners
- Pen y Cymoedd Wind Farm Limited (is-gwmni i Vattenfall)
- Cyfoeth Naturiol Cymru
Grŵp Rhyngasiantaethol ar Newid Hinsawdd
Mae'r prosiect hwn yn un o gyfres o brosiectau sy'n arddangos rhai o'r enghreifftiau gorau o Nature Based Solutions o bedair gwlad y DU. Lluniwyd y wybodaeth gan Grŵp Rhyngasiantaethol ar Newid Hinsawdd y DU (IACCG), ac fe'i cynhelir ar wefan JNCC ar ran y grŵp.
Published: .