Skip to Content

Grangetown Werddach

Mae prosiect Grangetown Werddach yn brosiect partneriaeth a ddyluniwyd i drawsnewid ansawdd yr amgylchedd, strydlun a gwella seilwaith beicio a cherddwyr ar draws cymdogaeth yng nghanol dinas Caerdydd.

Mae'r dudalen we hon hefyd ar gael yn Saesneg / This webpage is also available in English

Trosolwg

Photograph showing a residential street in Cardiff before the work was undertaken to create a sustainable drainage system (© Cyfoeth Naturiol Cymru/Natural Resources Wales)

Mae Grangetown Werddach yn brosiect i greu system ddraenio gynaliadwy (SuDS) sydd wedi ei dylunio i reoli dŵr glaw yn well a gwneud y gymdogaeth amrywiol hon yn ninas Caerdydd yn lle glanach a gwyrddach i fyw ynddi.

Cafodd y prosiect, a gyflwynir drwy bartneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd a Dŵr Cymru Welsh Water, ei ysgogi gan yr angen i leihau lefelau’r dŵr glaw sy'n mynd i system garthffosiaeth y brifddinas er mwyn darparu gwytnwch yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd a threfoli ac i ddiogelu ei gwytnwch a'i chapasiti hirdymor

Roedd ganddo hefyd yr uchelgais i wella'r amgylchoedd a mynediad i fannau gwyrdd trefol i drigolion a chymudwyr yr ardal.

Top

Y prosiect

Photograph showing a residential street in Cardiff during the work undertaken to create a sustainable drainage system (© Cyfoeth Naturiol Cymru/Natural Resources Wales)

Mae safle prosiect Grangetown Werddach yn cwmpasu 12 hectar. Mae hyn yn cynnwys deuddeg stryd Fictoraidd, gyda thua 1,150 o drigolion a 500 eiddo.

 

Datblygodd y cysyniad o'r nod gwreiddiol o gael gwared ar ddŵr wyneb a oedd yn llifo i’r rhwydwaith carthffosydd cyfunol.

Yn y gorffennol, pwmpiwyd dŵr glaw am bellter o 8 km i’w drin cyn iddo gael ei ollwng i'r môr.

Am y tro cyntaf yn y DU, a chan weithio gyda'r technegau diweddaraf ym maes peirianneg sifil a dylunio, rhoddodd y prosiect dechnegau draenio cynaliadwy ar waith i ddal, glanhau a dargyfeirio dŵr glaw yn uniongyrchol i'r afon gyfagos.

Cyflawnwyd hyn drwy ddylunio a gosod dros 100 o erddi glaw yn cynnwys coed a phlanhigion brodorol ar strydoedd Grangetown. Mae'r rhain yn ardaloedd wedi'u plannu sy'n dynwared yr amgylchedd naturiol, gan ddarparu dull mwy cynaliadwy o ddal a glanhau dŵr glaw. Pan fydd hi’n glawio, mae dŵr yn llifo i'r gerddi glaw lle mae planhigion a choed gwydn yn ei amsugno a'i hidlo, gan ddal a dadelfennu rhai llygryddion ar hyd y ffordd.

Yn ystod stormydd geirwon, mae dŵr na ellir ei amsugno gan bridd a llystyfiant yn teithio drwy bibellau ar waelod pob gardd law ac yn cael ei gludo i Afon Taf sydd gerllaw.

Mae'r dull arloesol hwn o weithio mewn partneriaeth a chan ddefnyddio peirianneg sifil wedi arwain at ddargyfeirio mwy na 40,000 m³ o ddŵr glaw bob blwyddyn o brif rwydwaith carthffosydd y ddinas.

Dyma'r tro cyntaf yn y DU i'r technegau hyn gael eu hôl-osod i amgylchedd trefol ar y raddfa hon.

Top

Manteision amgylcheddol a chymdeithasol

Photograph showing a residential street in Cardiff after work was undertaken to create a sustainable drainage system (© Cyfoeth Naturiol Cymru/Natural Resources Wales)

Mae Grangetown Werddach yn enghraifft flaenllaw o gyfuno camau arloesol sy'n diogelu, yn rheoli ac yn adfer adnoddau naturiol yn gynaliadwy a gwella bywyd cymunedol.

Y nod o'r cychwyn cyntaf oedd ymgysylltu â'r gymuned leol amrywiol wrth ddylunio ac adeiladu'r prosiect i sicrhau bod eu barn a'u syniadau'n cael eu hadlewyrchu ym mhob rhan o’r gwaith. Roedd hyn yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion, digwyddiadau cymunedol dan do ac yn yr awyr agored lle'r oedd delweddau a darluniau yn helpu i gyfleu'r uchelgeisiau a fyddai'n creu amgylchedd lleol iach a gwydn a fyddai’n cefnogi ffyniant economaidd a chymdeithasol am genedlaethau i ddod. Cynhaliwyd digwyddiadau plannu dan arweiniad y gymuned hefyd.

Manteisiwyd i’r eithaf ar fuddion cymunedol ac amgylcheddol y prosiect drwy gydol y gwaith. Mae strydluniau wedi'u trawsnewid drwy blannu dros 120 o goed ac 19 rhywogaeth wahanol o blanhigion brodorol yn yr ardal.

Mae’r gwelliannau i dir cyhoeddus yn sgil prosiect Grangetown Werddach yn cynnwys 'stryd feiciau' newydd 555 m o hyd ar hyd Arglawdd Afon Taf, a chyflwyno 1,700 m2 o fannau gwyrdd newydd. Ehangwyd a rhoddwyd wyneb newydd ar lwybr troed glan yr afon hefyd.

Mae gosod croesfannau newydd, plannu deniadol sy'n symud lleoedd parcio i ffwrdd o gyffyrdd, a llain â gwead gwahanol yng nghanol y ffordd sy'n annog gyrwyr i gymryd gofal ychwanegol hefyd wedi trawsnewid y stryd. Crëwyd amgylchedd o ansawdd gwell i ddefnyddwyr a thrigolion y stryd, gan leihau cyflymder modurwyr a gwella gwelededd beicwyr a cherddwyr. Y canlyniad yw stryd breswyl lle mae beiciau'n cael blaenoriaeth.

Mae'r cynllun hefyd yn helpu i wella bioamrywiaeth a bywyd gwyllt lleol, gwella ansawdd dŵr yn yr afon leol a gwella ansawdd aer a llygredd sŵn.

Mae arwyddion cynnar yn dangos bod ynni a ddefnyddir gan orsaf bwmpio Marl, sy'n derbyn llifoedd o Grangetown, wedi lleihau'n sylweddol o gymharu â'r un cyfnod yn 2016 (cyn y gwaith adeiladu). Daw hyn er bod y glawiad wedi mwy na dyblu. Mae'r gwelliant hwn yn dangos effeithlonrwydd mewn costau gweithredol is, budd amgylcheddol o ran lleihau allyriadau carbon cysylltiedig, a diogelu'r rhwydwaith carthffosydd at y dyfodol drwy alluogi capasiti i ddelio ag effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Mae'n enghraifft arobryn o sut y gall sefydliadau gydweithio i greu cynifer o ganlyniadau cadarnhaol, a gobeithiwn y bydd y cynllun hwn yn ysbrydoli llawer mwy o brosiectau.

Top

Partneriaid y prosiect

  • Cyngor Dinas Caerdydd
  • Dŵr Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Top

Rhagor o wybodaeth

www.greenergrangetown.wordpress.com

Top

Grŵp Rhyngasiantaethol ar Newid Hinsawdd

Mae'r prosiect hwn yn un o gyfres o brosiectau sy'n arddangos rhai o'r enghreifftiau gorau o Nature Based Solutions o bedair gwlad y DU. Lluniwyd y wybodaeth gan Grŵp Rhyngasiantaethol ar Newid Hinsawdd y DU (IACCG), ac fe'i cynhelir ar wefan JNCC ar ran y grŵp.

logos-revised.jpg

Top

Published: .

Back to top